cerddirllygaid1004006.gif cerddirllygaid1004005.gif cerddirllygaid1004004.gif
Hafan

Y Cerddi

Nodiadau
Aberfan
Ysgrifennwyd y gerdd hon ar Ebrill 15, 2010! Gallaf fod mor bendant achos dyna ddyddiad daearwyd holl drafnidiaeth awyr Ewrop ar ôl ffrwydro’r llosgfynydd Eyjafjallajökull yng Ngwlad yr Iâ. Wedi bod yn yr ysgol yn gwneud sesiwn adolygu gyda’r chweched dosbarth yn ystod gwyliau’r Pasg, penderfynais fynd adref trwy Aberfan ac ymweld â’r fynwent yno am y tro cyntaf. Roedd yn ddiwrnod hyfryd, yn heulog a chynnes, ac oherwydd y diffyg awyrennau, roedd yr awr yn las a chlir – mor wahanol i’r diwrnod hwnnw ym mis Hydref, 1966. Wrth edrych ar y cerrig beddi, daeth y geiriau heb ofyn.
Geirfa
trafnidiaeth - traffic
myfyrdod - meditation
bwa - bow
celu - to hide
cyd-drigolion - fellow inhabitants
tarfu ar - to disturb
ôl llygredd - pollution
lludw - ash
llosgfynydd - volcano
olion - remains
heneiddio - ageing
glas-fod dynol - young human being
hunllefus - nightmarish
di-baid - non-stop
taranu - to thunder
düwch - blackness
llaid lladdol - lethal mud
hau hadau - to sow seeds
cywilydd - shame
medi - to reap
cynhaeaf - harvest
egino - to bud