Colli Mam
Ebrill, 2012
Geirfa
cyfrolau - volumes
creulon - cruel
urddas - dignity
dioddef - to suffer
rhwystro - to prevent, hinder
euogrwydd - guilt
gwellhâd - recovery
gref - cryf (ffurf fenywaidd)
magu - to rear, bring up
gofalu am - to take care of
carco - to care for, look after
ymdrechu - to strive, struggle
bywoliaeth - living
cadernid - strength
cynnal - to support
yr un drefn - the same order
anochel - inevitable
well i ti - you'd better
ymbil - to plead
twtio - to tidy
mân bethau - little things
myglyd - suffocating, stuffy
mygu - to choke, stifle, suffocate
tymheredd - temperature
taranau - thunder
cyhoeddi - to announce, proclaim
dod ynghyd - to come together, unite
Dyma gerdd oedd yn anodd i fi ysgrifennu, ond ar ôl ei hysgrifennu, cael teimlad o ryddhad fy mod wedi’i wneud.
Bu farw Mam yn 2003 ac am flynyddoedd, teimlais yn euog nad oeddwn i wedi llwyddo gyrru i weld Mam yn yr ysbyty pan oedd hi’n dal yn ymwybodol. Collais i’r cyfle o siarad â hi, er hoffwn feddwl ei bod yn gallu clywed fy llais am yr wythnos roedd hi mewn coma.
Catharsis i fi sydd yma. Yr hyn sydd gen i nawr yw cof am fam annwyl, gref, oedd yn falch iawn o’i phlant, a ninnau’n falch iawn ohoni hi.