Mae’r manordy Pen-y-Bryn ar y penrhyn Garth Celyn yn Abergwyngregyn, a dyma oedd llys Llywelyn ap Gruffudd a thywysogion Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae perchennog presennol y ty yn ei warchod ac yn croesawu ymwelwyr yn agored. Ond, mae’r lle ar werth, ac mae
llawer o bobl eisiau i Lywodraeth Cymru ei brynu er mwyn ei warchod yn barhaol.