cerddirllygaid1021004.gif cerddirllygaid1021003.gif cerddirllygaid1021002.gif
Hafan

Y Cerddi

Nodiadau
Mordaith
Mawrth, 2015
Geirfa
mordaith - cruise, sea journey
gwledd - feast
synhwyrau - senses
stemar olwyn - paddle steamer
gwefr - thrill
bompren - gangplank
disgleirio - to shine
morio - to sail
gweilgi - môr, the sea
distrych y don - seaspray
halltio - to make salty
gwylanod - seagulls
dychymyg - imagination
môr-ladron - pirates
crombil - insides
llafurio - to toil
dyrnu - to throb, thresh
argyhoeddi - to convince
curiad - beat, rhythm
pwls - pulse
cysurlon - comforting
troi o chwith - to reverse
berwi - to boil
ysu - to yearn, long for
Roedd cael mynd ar wibdaith fôr yn un o uchafbwyntiau dyddiau fy mhlentyndod, ac yn sicr bu taith ar stemar olwyn yn ddigwyddiad arbennig iawn. Mae gen i sawl atgof melys o deithiau felly, ac roedd gwylio’r peiriannau’n troi yn hudol i fachgen ifanc.
Llun o'r we
Mae teithiau tebyg yn dal i redeg, ac nid yw’r cyffro yn lleihau! Mae sawl clip fideo ar Youtube erbyn hyn sydd yn rhoi blas o’r profiad a ddisgrifir yn y gerdd. Gellir gweld un o’r rhain ar:
 https://www.youtube.com/watch?v=5t_Ii4qr1N0