cerddirllygaid1022004.gif cerddirllygaid1022003.gif cerddirllygaid1022002.gif
Hafan

Y Cerddi

Nodiadau
Mrs Fry
2005
Ffotograffydd oedd fy nhad, ac roedd e wastad yn tynnu lluniau wrth brofi lens neu gamera newydd. Yn aml iawn, byddai’n tynnu llun o’r tai gyferbyn i le roedden ni’n byw yn Nhrealaw, Y Rhondda, achos roedd y cerrig ar y tai a’r ffenestri yn wrthrychion da i’w tynnu er mwyn profi gwerth lens.
Wrth fynd drwy hen luniau gartre darganfyddais i’r llun yma, ac yn rhan ohono lun cymydog oedd yn byw fwy neu lai yn gyferbyn – Mrs Fry. Dechreuais ysgrifennu rai geiriau a llinellau amdani yn Saesneg, ond yn penderfynu ceisio ysgrifennu yn y Gymraeg yn lle, a dyma ddechrau ar farddoni yn y Gymraeg. Defnyddiais i rai o’r llinellau Saesneg a’u cyfieithu, ond yn fuan iawn sylweddoli fy mod yn cael mwy o bleser wrth ysgrifennu yn y Gymraeg yn unig.
Geirfa
ffaeledig - fallible
taflu - to throw
gwahanu - to separate
gwlân - wool
honedig - alleged
herio - to challenge
gordew - overweight
cymwynas - errand
swllt - shilling
dwrn - fist
crwt - bachgen, boy
gwawd - ridicule, scorn
llu - host
drewi - to stink
troeth - urine
byddar - deaf
mud - dumb
ynghlwm - entwined
gwreiddiau - roots
Llun: Les Shurey