cerddirllygaid1038005.gif cerddirllygaid1038004.gif cerddirllygaid1038003.gif
Hafan

Y Cerddi

Nodiadau
Wal y Llan
Mai, 2010
Yr eglwys heddiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
Lluniau o'r we
Geirfa
llan - eglwys, church
disgleirio - to shine
stribed - strip, stripe
glesni - green-ness / freshness
llidiart - gate, gateway
goroesi - to survive
cyn-fynediad - old entrance
cors - marsh
gynt - previously
bellach - now
corff - body
adfail - ruin
sanctaidd - holy
saif - stand, stands
gwarchodwyr - guardians
tystio - to testify, witness
addoldy - place of worship
bodoli - to exist
cragen - shell
enaid - soul
trigo - to dwell
Ers tro, byddwn i’n gyrru heibio’r hen eglwys ar y gors ger Bontarddulais a’i gweld yn glir o’r M4. Wrth gwrs, cofiaf y gwaith hefyd o symud yr eglwys i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, a gweld yr eglwys yn ei gogoniant newydd yno.

Ond y diwrnod yma, gyda’r wal wedi’i hail-beintio, roedd yn disgleirio’n wyn llachar yn heulwen y dydd, a gwnaeth hi wir dynnu fy llygaid. Dyma sylweddoli bod enaid (ac hefyd mynwent) yr eglwys yn dal yno.